Er mwyn gwneud y mwyaf o’r hyn allwn gynnig i’n codwyr arian clodwiw (ydy, mae hynny’n cynnwys chi) gweler www.rednoseday.com/getinvolved
Mae 32 o henoed y Deyrnas Unedig yn marw’n unig a disylw bob dydd gyda miloedd mwy yn teimlo nad oes neb yn sylweddoli eu bod yn bodoli.
Gall £3 gyfrannu at bryd o fwyd twym mewn clwb cinio lle gall yr henoed gwrdd er mwyn sgwrsio a chymdeithasu. Pryd o fwyd maethlon a gêm o bingo gyda ffrindiau yn golygu nad ydynt yn teimlo mor unig ragor.
Bydd y rhaglenni canlynol yn rhai arbennig ar gyfer Diwrnod y Trwynau Coch ’07.
Gwyliwch allan am raglenni arbennig megis Comic Relief Does Fame Academy ac, am y tro cyntaf erioed, Comic Relief Does The Apprentice!
Ar noson y Trwynau Coch, peidiwch â cholli’r sioe ar BBC ONE o 7pm – bydd yn cynnwys y gorau o fyd comedi a hynt a helynt y sêr i’ch cadw’n ddiddig drwy’r nos.
Gadewch i ni gyflwyno dau o’r pethau angenrheidiol eleni:
1. Y Trwyn Mawr – y mwyaf yn hanes Comic Relief ac yn cynnwys anrheg gudd. Prynwch eich un chi yn Sainsbury’s, Oxfam neu www.rednoseday.com
2. Crys T Diwrnod y Trwynau Coch o TK Maxx – ar gael mewn sawl maint a steil gan gynnwys siwt babi! Rhywbeth ar gyferpawb – bach neu fawr.
Cacennau ar werth
Gwisgwch eich ffedog gan bobi degau o gacennau. Gwerthwch nhw i bawb yr ydych yn eu hadnabod gan anfon yr elw atom ni.
Blwch Rhegi
Bob tro y byddwch chi, neu eich ffrindiau yn rhegi, rhowch 50c yn y blwch gan anfon y cyfan at Comic Relief. Erbyn diwedd Diwrnod y Trwynau Coch byddwch wedi gwneud rhywbeth £^&@!% grêt!
